Dal straeon y sêr Ailgyflwyno chwedlau Groegaidd clasurol ar daith lwyfan newydd ledled Cymru
Mae'r storïwyr adnabyddus Daniel Morden a Hugh Lupton wedi creu profiad theatr agos newydd sy'n edrych ar chwedlau clasurol wedi'u hysbrydoli gan y sêr, a fydd yn teithio ledled Cymru yn ystod Gwanwyn 2026.
Wedi'i gynhyrchu gan Adverse Camber Productions, bydd Stars and their Consolations yn rhannu chwedlau Groegaidd adnabyddus am y sêr, gyda thrac sain electro-acwstig a grëwyd gan y gyfansoddwraig arobryn o Gymru, Sarah Lianne Lewis yn cyfoethogi’r cyfan.
Yn 2022, gweithiodd Adverse Camber gyda Daniel Morden, Hugh Lupton a'r gyfansoddwraig o Gymru, Sarah Lianne Lewis, a thîm creadigol i ddatblygu Stars and their Consolations, yn dilyn perfformiad cyntaf yng ngorllewin Cymru yng Ngŵyl Chwedleua Beyond the Border 2021.
Mae'r fersiwn estynedig hon ar gyfer theatrau a theithio gwledig yn gynhyrchiad mawreddog, personol a hypnotig. Mae’n plethu straeon hynafol, gydag animeiddiadau hyfryd o awyr y nos ar y llwyfan, a seinwedd electro-acwstig syfrdanol Sarah Lianne Lewis.
Mae Stars and their Consolations yn ffordd eithriadol a hygyrch o brofi straeon sydd wedi cael eu rhannu wrth y tân ers miloedd o flynyddoedd.
"Mae Stars and their Consolations yn ffordd o adfer awyr y nos. Byth ers i ddynoliaeth fodoli, rydym wedi defnyddio straeon i ddeall ein profiadau. Pan fyddwn yn gwrando ar y chwedlau hyn rydym yn cysylltu â'n hynafiaid. Mae fel pe bai llaw wedi estyn allan o'r gorffennol a chydio yn ein llaw ni, ac rydyn ni'n teimlo'n llai unig." Daniel Morden, storïwr a chyd-grëwr Stars and their Consolations.
Mae'r sioe ddwy awr o hyd yn mynd â ni ar antur gyfareddol a gwirioneddol hudolus. Gwyliwch y duwiau’n chwarae'n ddidrugaredd gyda marwolion gyda straeon am chwant, balchder ac angerdd a fydd yn gadael cynulleidfaoedd yn ysu i ddarganfod mwy. Gwrandewch ar gytserau a chlystyrau sêr adnabyddus megis Orïon, Pegasws, y Pleiades, Siriws a'r Llwybr Llaethog ei hun.
Mae epig awyr y nos yn dod â phersbectif cosmig, tragwyddol i drafferthion dynol, gan gynnig cysur mawr ei angen ar gyfer y dydd sydd ohoni.
"Mae straeon a rennir yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd. Rydyn ni i gyd yn byw o dan yr un awyr, er y gall edrych yn wahanol iawn yn dibynnu ar ble rydych chi'n sefyll. Mae straeon sy'n gysylltiedig â sêr yn ein helpu i gofio patrymau cytser, a all ein helpu i arwain y ffordd, a nodi newidiadau tymhorol. Gall y sêr hefyd anfon rhybuddion atom, fel y risgiau i'n hiechyd a'n ecoleg a ddaw o lygredd golau. Trwy rannu straeon cawn ein hatgoffa o werth aruthrol awyr y nos a pham mae angen i ni sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu parhau i fwynhau ei harddwch a'i bŵer!" Naomi Wilds, Cynhyrchydd Adverse Camber.
Yn arwain at y perfformiad yn y Gwanwyn, bydd Adverse Camber gyda chefnogaeth Partneriaeth Prosiect Nos, Theatrau Sir Gâr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Colwinston, Ymddiriedolaeth Darkley, Llywodraeth Cymru, Llenyddiaeth Cymru a People Speak Up yn cynnal prosiect 6 mis o hyd yn cydweithio â 10 storïwr dwyieithog ledled Cymru ym mhrosiect Cysur y Sêr.
Mae Cysur y Sêr yn brosiect dwyieithog a arweinir gan y Gymraeg sy'n ymwneud â datblygu straeon yn Gymraeg, gan dynnu sylw at yr effeithiau amgylcheddol y mae llygredd golau a newid yn yr hinsawdd yn eu cael yng Nghymru. Bydd y prosiect hefyd yn gadael etifeddiaeth adrodd straeon trawiadol i genedlaethau'r dyfodol. Bydd y 10 storïwr dwyieithog yn gweithio gyda chymunedau ger canolfannau dros y 6 mis nesaf, yn arwain at Wythnos Awyr Dywyll ym mis Chwefror 2026 ac yn cysylltu â'r daith ym mis Mawrth ac Ebrill 2026.
Tra bod Stars and Consolations yn edrych ar chwedlau Groegaidd, mae gan Gymru awyr nos warchodedig sydd ymhlith y gorau yn y byd. Mae'r cynhyrchiad hwn yn caniatáu i gynulleidfaoedd ailfeddwl am straeon awyr y nos yng Nghymru.
"Roedd tirwedd Cymru yn arfer bod yn llawn straeon. Mae cymaint o enwau lleoedd Cymru yn dod o straeon, llawer ohonynt wedi mynd yn angof. Mae'r un peth yn wir am y nefoedd. Os yw STARS yn helpu i wneud awyr y nos yn hudolus ac yn werthfawr unwaith eto, efallai y byddwn yn gwneud mwy i’w amddiffyn." Daniel Morden.
"Roedd pobl cefn gwlad ac arfordirol Cymru yn y canrifoedd diwethaf yn gwybod cymaint am gytserau, ac mae'r diddordeb mewn gwylio Awyr Dywyll ledled Cymru yn cynyddu'n fawr ar hyn o bryd. Yn anffodus, rydym yn amau ein bod wedi colli llawer o'r straeon y gallai pobl fod wedi'u hadrodd am y sêr yn y gorffennol, ond efallai y bydd Cysur y Sêr yn datgelu straeon y mae pobl yn cofio eu clywed, sy'n gyffrous iawn. Mae'r prosiectau hyn yn golygu y bydd llawer mwy o bobl yn cael clywed ac ailadrodd y straeon hyn, sy'n helpu i drosglwyddo'r wybodaeth wirioneddol bwysig hon ymlaen i'r dyfodol."
Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll Partneriaeth Prosiect Nos
Bydd Stars and their Consolations yn teithio i:
Ffwrnes – Stiwdio Stepney, Llanelli – 21 Mawrth*
Theatr y Torch, Aberdaugleddau – 24 Mawrth
Glan-yr-afon, Casnewydd – 25 Mawrth
Theatr Borough, Y Fenni – 26 Mawrth
Henbant Permaculture Farm – 28 Mawrth
Neuadd Bentref Llangoed - 29 Mawrth
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug - 30 Mawrth*
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - 31 Mawrth*
Canolfan Celfyddydau Pontardawe – 1 Ebrill
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd - 2 Ebrill*
*Perfformiadau Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Cathryn McShane.
Mae rhagor o fanylion am y prosiect a'r daith ar gael yma - adversecamber.org
Cefnogir gan Theatrau Sir Gâr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Colwinston, Ymddiriedolaeth Darkley, Llywodraeth Cymru