Stars and their Consolations
Straeon am y sêr wedi'u hadrodd i drac sain electro-acwstig
Ail-ddychmygu mawreddog, personol a hypnotig o chwedlau Groegaidd sy'n cyfuno straeon hynafol, tafluniadau cosmig a seinwedd electro-acwstig iasol.
Teithiwch i awyr y nos gyda straeon sydd wedi goleuo'r tywyllwch ers miloedd o flynyddoedd. Daw chwedlau Groegaidd o gytserau yn fyw gan ddau o fawrion adrodd straeon y DU, Hugh Lupton a Daniel Morden. Dewch i brofi straeon pwerus, hynafol gyda seinwedd electro-acwstig gyffrous gan y cyfansoddwr Sarah Liane Lewis a thafluniad cosmig. Plymiwch i antur gyfareddol a gwirioneddol hudolus. Gwyliwch y duwiau’n chwarae'n ddidrugaredd gyda marwolion gyda straeon o chwant, balchder ac angerdd. Bydd y cyfan yn eich gadael ar bigau’r draen eisiau darganfod mwy...
Daw awyr y nos epig â phersbectif cosmig, tragwyddol i drafferthion dynol, gan gynnig cysur sy’n fawr ei angen yn y dydd sydd ohoni.
Yn addas i’r rheiny sy’n 14+ oed
Rhybudd Cynnwys: mae straeon duwiau a marwolion yn cynnwys cyfeiriadau at fygythiad, trais a thrais rhywiol
Cyhoeddir manylion llawn y daith ym mis Awst 2025.
Gyda chefnogaeth Theatrau Sir Gâr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Colwinston, Ymddiriedolaeth Darkley, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Prosiect Nos a People Speak Up.
Comisiynwyd Stars and their Consolations yn wreiddiol ar gyfer Beyond the Border 2021 a chefnogwyd y cyfnod ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Thŷ Cerdd gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr.
“It drew me in right from the beginning, I was completely enthralled.”
Audience Member
"I was thoroughly entranced by the work and found it inspiring.”
Audience Member
"It made me want to find out more about the myths behind the stories, I’ll be looking them up!”Audience Member
Stars and their Consolations team





