Cysur y Sêr

Cysur y Sêr is a national-focused, Welsh-led and bilingual project that is about  developing stories in Welsh, environmental respect and leaving an impactful legacy for future generations, leading up to the performances of Stars and their Consolations tour across Wales in March- April 2026.

Mae Cysur y Sêr yn brosiect dwyieithog, a arweinir gan y Gymraeg, sydd â ffocws cenedlaethol. Mae’n ymwneud â datblygu straeon yn Gymraeg, parch amgylcheddol a gadael gwaddol effeithiol i genedlaethau'r dyfodol. Bydd y prosiect yn arwain at
berfformiadau Stars and their Consolations ar daith ledled Cymru, fis Mawrth tan fis Ebrill 2026.

Telling stories of the night sky helps make sense of constellation patterns in ways which connect us to our deep and recent past, and which orientate us, in geography, time, the seasonal year and culture. Stories are one of our most adaptable and reliable ways of passing on knowledge between generations.

Mae adrodd straeon am awyr y nos yn helpu i wneud synnwyr o batrymau cytser mewn ffyrdd sy'n ein cysylltu â'n gorffennol pell a diweddar, ac sy'n ein cyfeirio, mewn daearyddiaeth, amser, y flwyddyn dymhorol a diwylliant. Straeon yw un o'n
ffyrdd mwyaf addasadwy a dibynadwy o drosglwyddo gwybodaeth rhwng cenedlaethau.

“For many of us it may seem that the world has never felt so divided. Things seem to be happening at an almighty pace, like we are ricocheting, faster and faster, into an uncontrollable storm. It’s overwhelming…. There is nothing like standing in the universe, under the immensity of the night sky, to be reminded about how out of our control all of this really is. Taking in the sights and sounds of the night, with thousands of stars suspended in the darkness overhead is incredibly grounding.”
Dani Robertson, Project Nos Dark Sky Officer, All Through The Night (Harper North, 2023)
"I lawer ohonom efallai y bydd yn ymddangos nad yw'r byd erioed wedi teimlo mor rhanedig. Mae fel petai bethau’n digwydd ar gyflymder aruthrol, fel ein bod ni'n carlamu, yn gyflymach ac yn gyflymach, i mewn i storm afreolus . Mae'n llethol .... Does dim byd tebyg i sefyll yn y bydysawd, o yn edrych i fyny ar awyr y nos, i gael eich atgoffa o gyn lleied o reolaeth sydd gennym ni dros bob dim mewn gwirionedd. Mae mwynhau golygfeydd a synau'r nos, gyda miloedd o sêr yn hongian yn y tywyllwch uwch ein pennau yn ffordd arbennig o’n sadio."
Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll Prosiect Nos, All Through The Night (Harper North, 2023)

While working on the R&D and speaking to Welsh storytellers and audiences, we realised there is a danger that stories inspired by the night sky might be lost due to:

  • increasing light pollution
  • less people sharing stories of the stars in daily life

 We were also excited to discover

  • possible knowledge of Welsh myths of star constellations
  • what happens when Greek myths of the stars are told in Welsh.

We will be working with 10 venues across Wales, their communities and collaborating with experienced and emerging storytellers to explore these themes and ways of working together in ways which are accessible and climate conscious.

We are celebrating Wales’s distinct and diverse identity as a nation protecting its Dark Skies and culture, embracing stories in many languages and different heritages.

We will be focusing on three areas of work over the next year:

//

Wrth weithio ar yr ymchwil a datblygu a siarad â chwedleuwyr a chynulleidfaoedd Cymru, fe sylweddolom fod perygl y gallai straeon a ysbrydolwyd gan awyr y nos gael eu colli oherwydd: -    cynydd mewn llygredd golau -    llai o bobl yn rhannu straeon y sêr mewn bywyd bob dydd

 Roeddem hefyd yn gyffrous i ddarganfod -    gwybodaeth bosibl o chwedlau Cymreig am gytserau sêr -    beth sy'n digwydd pan adroddir chwedlau Groegaidd am y sêr yn Gymraeg.

Byddwn yn gweithio gyda 10 canolfan ledled Cymru a’u cymunedau. Byddwn yn cydweithio â storïwyr profiadol ac egin storïwyr er mwyn archwilio'r themâu hyn a'r ffyrdd o gydweithio mewn ffyrdd sy'n hygyrch ac yn ymwybodol o'r hinsawdd.

Rydym yn dathlu hunaniaeth unigryw ac amrywiol Cymru fel gwlad sy'n gwarchod ei Hawyr Dywyll a'i diwylliant, gan gofleidio straeon mewn llawer o ieithoedd a threftadaeth wahanol.

Byddwn yn canolbwyntio ar dri maes gwaith dros y flwyddyn nesaf:  

Supporting storytellers in Wales / Cefnogi storïwyr yng Nghymru

Fusing stories and the night sky together, supporting climate consciousness / Cyfuno straeon ac awyr y nos gyda'i gilydd, a chefnogi ymwybyddiaeth hinsawdd

Using creativity to help local communities, knowledge, health and wellbeing / Defnyddio creadigrwydd i helpu cymunedau lleol, gwybodaeth, iechyd a lles

Funders

Arts Council of Wales logos
Dark Skies Logo
Cronfa Treftadaeth logo
Colwinston Trust logo
Theatrau Sir Gar logo
People Speak UP logo

Photo of Mair standing in front of the North Wales moors, wearing a red hat and glasses
Mair Tomos Ifans

Welsh lead storyteller

Photo of Tamar in a blue dress, long blonde hair, arms reaching outwards to the audience.
Tamar Eluned Williams

Lead Welsh Storyteller